Grymoedd van der Waals Flashcards
beth yw grymoedd rhyngfoleciwlaidd
rymoedd rhwng moleciwlau
ydi grymoeddd rhyngfoleciwlaidd yn wanach neu yn gryfach na bondiau cofalent, ïonig neu fetelig.
wanach
beth ydi y 3 fath o grymoedd rhyngfoleciwlaidd
grymoedd deupol-deupol
grymoedd deupol anwythol-deupol anwythol,
bondiau hydrogen.
beth yw grymoedd deupol deupol
Mae gan un pen gwefr bositif rannol, a’r llall gwefr negatif rannol oherwydd gwahaniaeth mewn electronegatifedd rhwng yr atomau yn y moleciwl. Os bydd y deupolau hyn yn eu trefnu eu hunain fel bod rhanbarth negatif un moleciwl yn agos i ranbarth positif moleciwl arall, bydd atyniad rhyngddyn nhw.
beth yw Grymoedd deupol anwythol–deupol anwythol
Gellir dal ffurfio deupolau mewn moleciwlau amholar. Y rheswm am hyn yw symudiad cyson electronau o amgylch y niwclews lle mae mwy o electronau weithiau wedi crynhoi ar un ochr i’r atom ar unrhyw un adeg, gan achosi deupolau dros dro.
Gall pen δ+ y moleciwl dynnu cwmwl electron moleciwl cyfagos tuag ato, gan roi gwefr δ- i ochr chwith y moleciwl hwnnw. Mae hyn yn golygu ei fod yn creu deupol dros dro yn y moleciwl cyfagos. Mae’r ddau ddeupol yn cael eu denu at ei gilydd.
beth yw’r math gwanaf o grymoedd van der Waals.
Grymoedd deupol anwythol–deupol anwythol