Geirfa CH5 Flashcards
Par anadweithiol
Por o electronnau ns2 nad ydynt yn cymryd rhan mewn bondio
Deumer
Rhywogaeth sy’n cael ei greu pan fydd dau moleciwl yn uno
Electron-ddiffygiol
Rhywogaeth sydd â llai nag wyth electron yn ei blisgyn allanol, fel nad yw’r plisgyn yma’n llawn
Isoelectronal
Yr un nifer o electronnau yn y plisgyn allanol
Ocsid asidig
Ocsid sy’n adweithio gyda basau
Ocsidau basig
Ocsidau sy’n adweithio gyda asidau
Adwaith dadgyfraniad
Adweaith ble mae rhai atomau o’r un elfen yn cael eu hocsidio ac atomau eraill tn cael eu rhydwytho gan gynhyrchu cynhyrchion gwahanol
Ligand
Moleciwl bach â phâr unig sy’n gallu bondio ag ïon metel trosiannol
Cymhlygyn
Ligandau wedi’u cysylltu â metel trosiannol gan fondiau cyd-drefnol
Ocsidiad
Y broses o golli electronnau
Rhydwytho
Y broses o ennill electronnau
Potensial electrod safonol
Y gwahaniaeth potensial pan gysylltir unrhyw hanner cell â’r electrod hydrogen safonol dan amodau safonol
Effaith par anadweithiol
Tuedd yr elfennau trymach ym mloc p i ffurfio cyflwr ocsidiad is
Newid enthalpi atomeiddiad
Y newid enthalpi i ffurfio un mol o atomau yn y wedd nwy
Newid enthalpi ffurfio dellt
Y newid enthalpi sy’n digwydd pan fydd un mol i gyfansoddyn ionig yn cael ei ffurfio o ionau’r elfennau yn y wedd nwy