ensymau Flashcards
beth yw ensym
Proteinau adeiledd trydyddol yw ensymau ac felly mae ganddynt siâp 3D penodol iawn, sy’n cynnwys safle actif a gaiff ei ddal at ei gilydd gan fondiau peptid, hydrogen, ïonig a deusylffid.
beth yw’r damcaniaeth clo ac allwedd
- gwrthdrawiad llwyddiannus yn golygu bod y swbstrad yn ffitio’n union i safle actif yr ensym.
- ffurfio cymhlygyn ensym-swbstrad.
-cynhyrchion eu rhyddhau. Ar ddiwedd yr adwaith.
-dydy’r ensym ddim wedi newid.
beth yw’r damcaniaeth ffit anwythol
-nid yw’r safle actif a’r swbstrad yn gwbl ategol o ran eu siâp.
-Mae grwpiau adweithio yn yr ardaloedd hyn yn alinio ac mae’r swbstrad yn gwthio ei hun i’r safle actif.
-Mae’r ddwy ardal yn newid
eu hadeiledd ychydig,
-mae’r bondiau yn y swbstrad yn gwanhau ac mae’r adwaith yn digwydd ar lefel egni actifadu is.
beth yw ensyn mewngellol
ensymau sef yn gweithio ty mewn i gelloedd
beth yw ensymau allgellol
chaiff eu secretio o gelloedd i’w defnyddio y tu allan.
beth yw ffactorau sy’n effeithio ar ensymau
-ph
-tymheredd
-crynodiad y swbstrad
-atalyddion
sut ydi tymheredd yn effeithio cyfradd adwaith ensymau
os mae’r tymheredd yn mynd rhy uchel i ensym beth sydd yn digwydd
mae’r egni cinetig yn cynyddu i bwynt lle bydd y dirgryniadau ym moleciwl yr ensym yn gwanhau rhai o’r bondiau sy’n dal adeiledd trydyddol 3D y safle actif ynghyd. Mae’r safle actif yn colli ei siâp, nid yw’r swbstrad yn ategu’r safle actif mwyach, ni ellir gwneud rhagor o gymhlygion ensym- swbstrad, a dywedir bod yr ensym wedi dadnatureiddio.
sut ydi crynodiad y swbstrad yn effeithio cyfradd adwaith ensymau
- adwaith ensymau yn dibynnu ar wrthdrawiadau llwyddiannus rhwng ensymau.
- unrhyw gynnydd yng nghrynodiad y swbstrad yn cynyddu’r gwrthdrawiadau a chyfradd yr adwaith.
- ar grynodiadau swbstrad isel, y ffactor hwn sy’n cyfyngu ar gyfradd yr adwaith gan fod cynyddu crynodiad y swbstrad yn cynyddu cyfradd yr adwaith. Ond ar ryw bwynt, ni fydd unrhyw gynnydd pellach yng nghrynodiad y swbstrad yn cael unrhyw effaith ar gyfradd yr adwaith. Nid hwn yw’r ffactor cyfyngol mwyach. Mae cyfradd yr adwaith yn sefydlogi am fod safle actif pob ensym yn llawn ar unrhyw adeg benodol. Crynodiad yr ensym yw’r ffactor cyfyngol yn awr.
beth yw atalyddion cystadleuol
beth yw atalyddion anghystadleuol
mae ensymau yn gatalyddion biolegol ,beth ydi hyn yn meddwl
eu bod yn lleihau egni actifeiddio adweithiau, ond maent yn aros yn ddigyfnewid yn yr adwaith.
sut ydi newid mewn ph fawr effeithio cyfradd adwaith ensymau
Gall newidiadau mawr mewn pH amharu ar fondiau ïonig a bondiau hydrogen yn yr ensym gan achosi newidiadau parhaol i siâp y safle actif, gan atal cymhlygion ensym/swbstrad rhag ffurfio, a dadnatureiddio’r ensym.
sut ydi newidiadau bach o optimwm ph yn effeithio yr ensym
Bydd newidiadau bach o’r optimwm hwn, naill ai uwchlaw neu islaw’r pH optimwm, yn gwneud newidiadau bach cildroadwy ym moleciwl yr ensym, gan leihau ei effeithiolrwydd.
sut ydi crynodiad yr ensym yn effeithio ar cyfradd adwaith
beth yw ensymau ansymudol
Gall ensymau fod wedi’u rhwymo i fatrics anadweithiol fel microffiibrilau cellwlos neu gleiniau sodiwm alginad.
beth yw manteision ensymau ansymudol
- ensym ddim yn halogi’r cynnyrch.
-Gallwn ni adennill ac ailddefnyddio’r ensymau ansymudol.
-Dim ond swm bach o ensym sydd ei angen.
- ensymau’n fwy sefydlog ac yn dadnatureiddio ar dymheredd uwch.
-gallu catalyddu adweithiau dros amrediad pH ehangach.
-Gallwn ddefnyddio mwy nag un ensym;
-gallwn ni ychwanegu a thynnu
ensymau.
-Mwy o reolaeth dros y broses.
- Gallwn ni eu defnyddio nhw mewn proses barhaus.
pryd defnyddiau ensymau ansymudol
-greu llaeth heb lactos
- biosynwyryddion.
beth ydi y ddau fath o adweithiau metabolaeth
anabolig-adeiladu moleciwliau
catabolig-torri moleciwliau
(gael eu cataleiddio gan ensymau)
sut ydi lactos yn gael ei leihau mewn llaeth
- llefrith lifo drwy’r golofon
-swbstrad (lactos) yn tryledu i
mewn i’r matrics alginad ac yn ffurfio
cymhlygyn ensym-swbstrad gyda’r
lactas. - monosacaridau glwcos a
galactos yn tryledu allan o’r gleiniau
alginad ac yn gadael y golofn gyda
gweddill y llefrith.
Gallwn ni leihau’r gyfradd llif i roi mwy
o amser i’r ensym a’r swbstrad ddod i
gysylltiad â’i gilydd, gan ganiatáu i fwy
o gymhlygion ensym-swbstrad ffurfio.
Gallwn ni ddefnyddio gleiniau llai i
gynyddu’r arwynebedd arwyneb, sy’n
caniatáu i drylediad ddigwydd yn
gyflymach.
beth yw biosynwyryddionut
gallu canfod moleciwlau o bwysigrwydd biolegol yn gyflym
iawn, hyd yn oed ar grynodiadau isel.
sut ydi biosynwyryddion yn gweihio
ensymau ansymudol ar bilen gel.
canfod newid cemegol, wrth i’r swbstrad gael ei drawsnewid yn gynnyrch, ac mae trawsddygiadur yn
trawsnewid y newid cemegol hwn yn signal trydanol y gallwn ni ei fwyhau a’i weld ar
ddangosydd.