Effaith hyd y gadwyn a grwpiau gweithredol ar briodweddau ffisegol, a dosbarthu rhywogaethau adweithiol Flashcards
pa grymoedd sef rhwngg hydrocarbonau
-grymoedd deupol anwythol-deupol anwythol neu rymoedd van der Waals sydd rhwng y molecylau
-felly mae eu grymoedd rhyngfoleciwlaidd yn wan iawn.
pam ydi hyd y cadwyn yn effeithio berbwynt ac ymdoddbwynt
- grymoedd van der Waals yn gweithredu rhwng arwynebau’r moleciwlau.
- Y mwyaf o arwyneb sydd mewn cysylltiad, y cryfaf yw’r grymoedd.
- Wrth i hyd y gadwyn fynd yn hirach, mae’r cyswllt arwyneb rhwng y moleciwlau yn mynd yn fwy
- mae’n cymryd mwy o egni i oresgyn grymoedd van der Waals ac mae’r tymheredd berwi (a toddi) yn cynyddu.
pam ydi alcanau gyda cadwyn syth ymdoddbwynt a berbwynt uwch nac hydrocarbon canghennog
Y mwyaf o ganghennau sydd gan isomer, y lleiaf o gyswllt arwyneb sydd rhwng moleciwlau. Mae llai o gyswllt wyneb yn golygu bod y grymoedd van der Waals rhwng moleciwlau yn wannach, ac felly mae angen llai o egni i’w gwahanu, gan arwain at dymheredd berwi is.
pam ydi cloroethan gyda berbwynt uwch nac bwtan
Mae gan cloroethan polar o Cδ+ – Clδ- sydd yn arwain at ddeupol parhaol. Felly, mae grymoedd deupol-deupol ychwanegol rhwng y moleciwlau ac mae angen mwy o egni i dorri’r bondiau hyn.
pam ydi propa-1-ol berbynt mwy nac cloroethan a bwtan
Yn propan-1-ol, mae bondiau hydrogen yn digwydd rhwng y grwpiau -OH. Gan mai bondiau hydrogen yw’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd cryfaf, mae angen hyd yn oed mwy o ynni i’w torri, gan arwain at y tymheredd berwi mwyaf.
pa fath o bond mae cyfansoddyn angen gallu ffurfio er mwyn hydoddi mewn dwr
Gan mai bondiau hydrogen yw’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd mwyaf arwyddocaol rhwng moleciwlau dŵr, bydd cyfansoddion organig sy’n gallu ffurfio bondiau hydrogen gyda dŵr yn hydoddi.
ydi hydoddedd yn lleihau neu cynyddu wrth i hyd y cadwyn carbon cynyddu
hydoddedd yn lleihau
pam ydi hydoddedd yn lleihau wrth i hyd cadwyn carbon cynyddu
Mae gan yr alcoholau mwy a’r asidau carbocsylig gadwyni hydrocarbon hirach sy’n hydroffobig. Ar tua phedwar neu bump o garbonau, mae’r effaith hydroffobig mor fawr fel nad yw’r cyfansoddyn yn hydawdd mwyach.