dulliau maethiad Flashcards
Beth yw dull maethiad awtotroffig
Synthesis o gemegion organig cymhleth o sylweddau anorganig, gan ddefnyddio ffynhonnell egni.
Beth yw dull maethiad ffotoawtotroffig
Defnyddio egni golau i gyfuno sylweddau anorganig yn gemegion organig cymhleth.
Beth yw dull maethiad Cemoawtotroffig
Defnyddio egni cemegol, o gemegion fel hydrogen sylffad, i gyfuno sylweddau anorganig yn gemegion organig cymhleth.
Beth yw dull maethiad Heterotroffig
Nid yw’n gallu syntheseisio ei gemegion organig cymhleth ei hun; rhaid iddo dreulio cemegion organig a gynhyrchir gan organebau eraill, ac yna ddefnyddio cynhyrchion treulio i syntheseiddio ei gemegau organig ei hun.
Beth yw dull maethiad Saprotroffig / Saprobiontig
Deunydd organig marw neu bydredig yn cael ei dreulio’n allgellol; mae organeb yn secredu ensymau, sydd wedyn yn treulio cemegion organig y swbstrad y maen nhw’n byw arno. Yna caiff cynhyrchion treulio eu hamsugno gan y saprotroff.
Beth yw dull maethiad Holosöig
Amsugniad o ddeunydd organig yn cael ei ddilyn gan dreuliad mewnol o’r cemegion organig sydd o fewn yr organeb.
Beth yw dull maethiad Parasitig
Byw mewn neu ar organeb letyol arall, a chael maeth gan yr organeb letyol, fel arfer er anfantais / niwed i’r lletywr; fel arfer nid yw’r lletywr yn cael unrhyw fudd.
beth yw dull maethiad Symbiosis / Cydymddibyniaeth
byw mewn / ar organebau eraill mewn perthynas sy’n rhoi budd i’r ddau organeb fel ei gilydd.
beth yw detritysyddion
bwydo ar sylwedd marw neu pydru
beth yw cylch bywyd llyngyren porc (soliwm Taenia) a’r llyngyren cig eidion (Taenia saginata)
beth yw addasiadau strwythurol llyngyren porc (soliwm Taenia) a’r llyngyren cig eidion (Taenia saginata) i’w galluogi i fyw yn system dreulio anifail.
- sgolecs wedi wreiddio yn wal y coludd ac mae ganddo fachau a sugnolynau i’w atal rhag cael ei ddatgysylltu gan peristalsis.
dim system dreulio na cheg gan mai dim ond maetholion sydd eisoes wedi’u treulio y mae angen i’r llyngyryn eu hamsugno.
corff yn wastad er mwyn cynyddu’r arwynebedd ar gyfer amsugno maetholion o gynhwysion y coludd.
Mae pob proglotid wedi’i orchuddio mewn cwtigl drwchus sy’n gwrthsefyll gweithrediadau ensymau treuliol. Maent hefyd yn secredu mwcws ac atalwyr ensymau i leihau’r risg o dreulio.
resbiradaeth anaerobig gan nad oes ocsigen yn lymen y coludd.
Mae pob proglotid yn ddeurywiad sy’n cynnwys organau atgenhedlol gwrywaidd a benywaidd. Felly, nid oes angen iddo ddod o hyd i gymar gan ei fod yn medru hunanffrwythloni. Gall pob proglotid gynnwys tua 50,000 o wyau, sy’n cynyddu’r siawns o heintio lletywr arall.
beth yw hwn
beth yw hwn
beth yw hwn
beth yw hwn
Mae organebau heterotroffig angen ffynonellau bwyd sy’n cynnwys cemegion organig cymhleth er mwyn cael………
carbon i wneud eu cemegion organig eu hunain
nitrogen i wneud proteinau ac asidau niwcleig
ffosfad ar gyfer ATP, ffosffoipidau ac asidau niwcleig
fitaminau a mwynau i wneud ystod eang o fiocemegion
egni.
beth yw lletwyr eilaidd
lle ceir ffurfiau larfaidd/ rhyngol o’r parasit.
beth yw factorau
lletywyr eilaidd sy’n trosglwyddo’r parasit (e.e. Malaria) yn uiongyrchol o un prif letywr i brif letywr arall.
beth yw’r gwahaniaeth o parasit anorfod ac led-barasitig.
parasitiaid anorfod yw’r rhai sy’n gwbl ddibynnol ar y planhigyn cynnal am ddŵr, cysgod a bwyd. mae led-barastig yw’r rhai sy’n dibynnu ar y planhigyn lletyol am ddŵr a mwynau ond un gallu cyflawni ffotosynthesis .
sut ydi amoeba yn treulio