Adweithiau asidau carbocsilig Flashcards
beth yw fformiwla cyffredinol asidau carbocsylig aliffatig
ydi asidau carbocsylig yn hydoddi mewn dwr
yndi
pam ydi grwp asid carbocsylig yn hydoddi mewn dwr
mae’nt yn polar felly gallu ffurfio bondiau hydrogen
pam ydi anweddolrwydd asid carbocsylig yn lleihau pan mae’nt yn ffurfio deumerau
Mae’r rhyngweithio cynyddol hwn rhwng asidau carbocsylig yn golygu bod angen mwy o egni i’w gwahanu fel bod anweddolrwydd yr asid carbocsylig yn lleihau.
pam ydi asid carbocsylig yn asid gwan
Mae’r ecwilibriwm a ffurfir yn golygu na cheir daduniad cyflawn. O ganlyniad, maent yn asidau gwannach nag asid hydroclorig neu sylffwrig, sy’n daduno’n llawn.
beth ydi asid carbocsylig ac metel yn ffurfio
halen a nwy hydrogen.
beth ydi arsylwad asid carbocsylig gyda metel
eferwad
beth ydi asidau carbocsylig ac bas yn ffurfio
halen a dŵr
beth ydi’r arsylwad wrth cymysgu asid carbocsylig ac bas
-rhan fwyaf o’r hydoddiannau halen sy’n cael eu ffurfio yn y modd hwn yn ddi-liw felly ni welir unrhyw newid gweladwy.
Mewn adwaith sy’n cynnwys basau metel trosiannol, gellid ffurfio hydoddiant â lliw, e.e. ocsid copr(II), gwelir hydoddiant glas oherwydd ffurfiad halen copr(II)carbocsylad.
beth yw asidau carbocsylig ac charbonadau yn ffurfio
halen,carbon deuocsid a dwr
beth yw asidau carbocsylig a hydrogencarbonad yn ffurfio
halen, carbon deuocsid a dŵr
pryd ydi ester yn ffurfio
Pan fydd asid carbocsylig yn adweithio ag alcohol ym mhresenoldeb catalydd asid (fel arfer asid sylffwrig crynodedig, H2SO4), bydd ester yn ffurfio. Yn yr adwaith, caiff y bond OH yn yr alcohol ei dorri.
beth ydi gair arall am esteriad
adwaith cyddwysiad gan fod dau moleciwl wedi cyfuno a wedi holli moleciwl dŵr bychan, fel sgil gynnyrch
er mwy cael cynnyrch dda o ester mewn adwaith beth rydych yn wneud mewn labordy
atodir y fflasg adwaith i offer distyllu fel y gellir tynnu’r ester cyn gynted ag y’i ffurfir. Wrth wneud hyn, mae egwyddor Le Chatelier yn nodi y bydd sefyllfa ecwilibriwm yn symud i’r dde i gymryd lle’r ester, ac felly bydd mwy o gynnyrch yn cael ei ffurfio.
sut ydych yn enwi esterau