2.7 - math o belydriad Flashcards
rhif proton (Z)
y nifer o protonau yn y niwclews
rhif niwcleon (A)
nifer o protonau + nifer y niwtronau yn y niwclews
isotop
- ffurf gwahanol ar elfen benodol
- yr un nifer o protonau ond nifer gwahanol o niwtronau
gronynnau alffa (α)
- 2 proton + 2 niwtron → niwclews heliwm
- gwefr positif
- trwm o’i cymharu a beta
- teithio hyd at 1/10 o fuanedd golau
- ioneiddio’n gryf
- papur yn ei hamsugno
- yn cael ei phlygu gan meysydd magnetig a thrydanol
gronynnau beta (β)
- un electron
- gwefr negatif
- ysgafn iawn
- teithio hyd at 9/10 o fuanedd golau
- ioneiddio’n wan
- 5mm o alwminiwm yn ei hamsugno
- cael ei phlygu’n gryf gan feysydd magnetig a thrydanol
pelydrau gama (γ)
- tonau electromagnetig
- dim gwefr
- dim mas
- teithio ar fuanedd golau
- ioneiddio’n wan iawn
- plwm trwchus neu graffit yn ei hamsugno
- ddim yn cael ei plygu gan feysydd magnetig na trydanol
pam ydi niwclysau atomig ansefydlog yn allyrru ymbelydrau?
mae allyriannau ymbelydrol o niwclysau atomig ansefydlog yn digwydd oherwydd diffyg cydbwysedd rhwng niferoedd y protonau a’r niwtronau
pam ydi gwastraff gorsafoedd pwer niwclear a meddygaeth niwclear yn ymbelydrol ac yn dal i fod yn ymbelydrol am amser hir?
mae’n aros yn ymbelydrol am amser hir oherwydd gall rhai gwastraff niwclear cael hanner oes hir
gwaredu gwastraff niwclear
- ymbelydredd isel → mewn drymiau wedi amgylchynu â choncrit, ac mewn safleoedd tirlenwi wedi’u leinio â chlai
- ymbelydredd canolig → cymysgu â choncrit a’i roi mewn drwm dur gwrthstaen mewn storfa bwrpasol
- ymbelydredd uchel → storio dan ddaear mewn pyllau mawr am 20 mlynedd, yna ei roi mewn casgenni storio mewn storfeydd tanddaearol pwrpasol lle mae aer yn gallu cylchredeg i gael gwared ar y gwres sy’n cael ei gynhyrchu
ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol
- pelydrau cosmig → ymbelydredd sy’n cyrraedd y Ddaear o’r gofod
- creigiau a phridd → mae rhai creigiau yn ymbelydrol ac yn rhyddhau nwy radon ymbelydrol
- pethau byw → mae planhigion yn amsugno defnyddiau ymbelydrol o’r pridd ac mae’r rhain yn symud i fyny’r gadwyn fwyd
ffynonellau ymbelydredd cefndir artiffisial
- pelydrau-X meddygol
- alldafliad ymbelydrol o brofi arfau niwclear
- gwastraff ymbelydrol o atomfeydd
beth sy’n digwydd yn ystod dadfeiliad niwclear?
mae nifer o atomau ymbelydrol yn lleihau dros amser oherwydd mae’r atomau yn dadfeilio i ffurfio niwclews mwy sefydlog, sydd ddim yn ymbelydrol